logo Richard Lewis and Son, cwmni cerrig beddi yn Blaenau Ffestiniog

slideshow01

Croeso i wefan Richard Lews & Son

Cwmni wedi ei arbennigo mewn gwlithfaen a llechen gymraeg ers tua 1918

Rydym yn cynnig gwaith proffesiynol a chyfeillgar i'n cwsmeriaid.

Yn isod dyma engraifft o gerrig beddi traddodiadol mewn llechen llyfn a gwlithfaen gloyw.

Mae siapiau hyn yn gyffredinol ar gyfer gweddillion llwch ond mewn meintiau llai.

Lliwiau du neu lwyd tywyll ar gyfer gwlithfaen, glas neu goch mewn llechen.

Lliw llythrennau - Aur neu arian.

Cerrig beddi eraill - Llyfr, Wedge ac fasus blodau (a'r gais)

Cysylltwch a ni am fwy o wybodaeth

Cerrig Beddi Traddodiadol

Gwelwch isod sampl o'n cerrig beddi traddodiadol:

Yn arbenigo mewn:

Cerrig Beddi Traddodiadol gan Richard Lewis and Son

Cyfieithiad yma yn fuan...

  • The design and manufacture of new Memorials.
  • Additional inscriptions on existing headstones.
  • Renovation of existing headstones,
  • All work carried out according to NAMM Regulations
  • Other services include: Commemorative Plaques, Housenames & numbers, Directional signage, slate commissions.

Manylion Cyswllt

Richard Lewis & Son
Hen Gapel Glandŵr /
Old Glandŵr Chapel
Glanypwll Road
Blaenau Ffestiniog
LL41 3PG

Ffôn: 01766 832525
Symudol 07787 522994
Ebost: post@richardlewisandson.co.uk

Hanes

Bachgen o Bentre Berw, Sir Fôn oedd Richard Lewis. Symudodd i ardal Stiniog cyn y Rhyfel Byd Cyntaf i weithio fel Rheolwr ‘Merlin Slabs’ yn Chwarel y Graig Ddu. Priododd Jane Ann Lewis (o Gwm Penmachno) a sefydlwyd eu cartref priodasol yn Glan y Wern, Manod, ac wedi hynny, yn 90 Heol Manod. Cyn symud i Stiniog, roedd eisioes wedi bwrw ei brentisiaeth fel saer maen cerrig beddi ym Mangor. Penderfynodd adael y chwarel a sefydlu busnes cerrig beddi yn ystod blynyddoedd y Rhyfel 1914/18. Sefydlodd weithdy yn y Manod, yn adeilad Tafarn Glan Gors gynt. Yn y blynyddoedd yma ’roedd y chwareli yn cyflogi miloedd o bobl a phoblogaeth ardal y Blaenau ar ei huchaf. Amser tynn iawn oedd hi ar deuluoedd y Blaenau - y mwyafrif helaeth yn byw ar gyflogau isel y chwarel ac angen prynu carreg fedd i’w hanwyliaid. Sylweddolodd Richard Lewis bod yn rhaid cynnig ffordd haws o dalu dyledion. Trefnodd iddynt dalu’n fisol - i gydfynd efo‘tâl mawr’ y chwarel. O ganlyniad, cymerwyd rhai misoedd, neu hyd yn oed flynyddoedd i glirio biliau!!
Yn y tridegau, cafodd ei ethol ar y Cyngor Tref (Ward Manod). Roedd ardal y Manod yn agos iawn at ei galon. Cynrychiolodd Ward Manod/Conglywal ar Gyngor Dinesig Ffestiniog am gryn ugain mlynedd. Bu’n ‘Faer y Dre’ am gyfnod o ddwy flynedd, ac mi frwydrodd yn galed i gael ‘Ysgol’ ac ‘Aelwyd’ yn y Manod. Manteisiodd llawer o fudiadau eraill ar ei gydweithrediad a’i brofiad. Ar ddiwedd yr ail Rhyfel Byd, dychwelodd Gwilym, y mab, i’r busnes. Fe’i rhedodd yn llwyddiannus hyd at ei ymddeoliad yn 1985. Bu farw Richard Lewis yn Nhachwedd 1948, yn 71 mlwydd oed, ac fel yma mae erthygl ‘Y Rhedegydd’ yn cyfeirio at ei angladd: ‘Dydd Llun, bu angladd Richard Lewis. Yr oedd yn un o’r angladdau mwyaf a pharchusaf a welwyd yn ardal y Manod, ac Eglwys Tyddyn Gwyn, lle y cynhaliwyd gwasanaeth byr, yn orlawn, a llawer o’r tu allan yn methu cael mynediad i fewn.’ Heddiw, bron i gan mlynedd yn ddiweddarach, mae’r busnes yn parhau. Fe’i ail-sefydlwyd yn Hen Gapel Glandwr, Ffordd Glanypwll gan ei ŵyr - Richard Thomas.